Beth yw effaith pandemig COVID-19 ar hyn o bryd, a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i liniaru effaith y pandemig a galluogi adferiad yn dilyn y pandemig?

Mae pandemig COVID-19 yn parhau i gael effaith ddifrifol ar y sector celfyddydol a diwylliannol ehangach yng Nghymru. Llenyddiaeth Cymru yw’r cwmni cenedlaethol ar gyfer datblygu llenyddiaeth, ac mae cynulleidfaoedd a gweithgareddau wyneb yn wyneb yn ganolog i ran helaeth o’n gwaith. Mae'r rhain yn cynnwys gweithgareddau cymunedol, ymweliadau awduron ag ysgolion, gweithdai creadigol, cyrsiau preswyl, a digwyddiadau llenyddol byw i gynulleidfaoedd o bob maint ledled y wlad. Nid oedd modd bwrw ymlaen â mwyafrif y gweithgareddau hyn o dan amgylchiadau arferol dros y 18 mis diwethaf. Fodd bynnag, fel llawer o ddiwydiannau, mae'r celfyddydau wedi dod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o gyrraedd ein cleientiaid a'n cynulleidfaoedd. Mae wedi ei brofi yn glinigol bod darllen ac ysgrifennu creadigol yn fuddiol i'n llesiant, ac mae llenyddiaeth yn ddull hynod effeithiol o fynd i'r afael â llawer o'r materion cymdeithasol a ddaeth fwyfwy i’r wyneb yn ystod y pandemig. Mae gallu gweithio'n ddigidol a darparu cynnwys mewn lleoliadau ac ar lwyfannau newydd, wedi caniatáu inni ymestyn ein cyrhaeddiad ac wedi gwneud llawer o'n gwaith yn fwy hygyrch mewn sawl ffordd. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae gwaith digidol wedi ynysu’r rheiny sydd heb sgiliau digidol hyderus neu heb fynediad at fand eang na caledwedd addas.

Mae nifer o sefydliadau, gwyliau a lleoliadau cynhyrchu wedi addasu a symud eu hallbwn a'u cynyrchiadau i lwyfannau digidol ac wedi denu ffigurau cynulleidfa trawiadol. Er enghraifft denodd ein cyrsiau blasu digidol Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd 259 o gyfranogwyr, ac fe dderbyniodd ein heriau ysgrifennu wythnosol gan Bardd Plant Cymru a’r Children’s Laureate Wales gyfanswm o 156 ymateb. Mae datblygu ein gwaith mewn partneriaeth hefyd wedi bod yn hanfodol bwysig yn ystod yr amser hwn. Er enghraifft, mae dyfnhau ein perthynas â BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales trwy gydweithio ar gyhoeddiadau rhestr fer ac enillwyr Gwobr Llyfr y Flwyddyn wedi ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach ar gyfer y gwobrau a'r llyfrau a ddathlwyd. Llwyddodd ein prosiect Plethu / Weave ar y cyd â’r Cwmni Dawns Cenedlaethol i rannu enghreifftiau hyfryd o sut y gall geiriau a symudiadau gydblethu ac ategu ei gilydd.

Fel nifer o sefydliadau eraill, roedd Llenyddiaeth Cymru yn gyflym i weithredu pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf, gan addasu llawer o'n gweithgareddau a sicrhau fod ein cefnogaeth wedi ei dargedu ar gyfer y rheiny byddai ei angen fwyaf. Lansiwyd cyfres newydd o gomisiynau oedd yn gwahodd awduron llawrydd a hwyluswyr llenyddol i wneud cais am swm rhwng £500 - £2,000 i ddyfeisio a darparu gweithgaredd digidol i barhau i ddifyrru ein cynulleidfaoedd yn ystod y cyfnod clo. Roedd y galwad agored hwn hefyd yn darparu rhywfaint o incwm i’r rheiny lle'r oedd llawer o’u gwaith cyflogedig wedi ei ohirio neu ei ganslo, heb unrhyw sicrwydd pryd y byddai’n dychwelyd. Aeth llawer o'r prosiectau digidol hyn i'r afael â materion yn ymwneud ag iechyd a llesiant ac roeddem yn falch o allu cydweithio â Choleg Brenhinol Seiciatreg yng Nghymru ar lawer ohonynt, gan ddefnyddio pŵer llenyddiaeth i iacháu i ddod â phobl ynghyd i rannu straeon a phrofiadau yn y byd rhithwir.

Fodd bynnag, mae tlodi digidol yn parhau i fod yn bryder wrth i weithgareddau llenyddol barhau i ddigwydd ar lwyfannau digidol. Fel sefydliad mae ein ffocws yn dal i fod ar y gwaith o ehangu cyrhaeddiad llenyddiaeth a chwalu'r rhwystrau i gyfranogi. Rydym wedi ymgynghori ag amrywiol awduron a chymunedau o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol wrth inni ddatblygu ein rhaglen flaenllaw newydd, Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw. Mae ymgynghoriad ar gyfer yr ail rownd ar y gweill ar hyn o bryd, gyda ffocws ar awduron o gefndiroedd incwm isel. Mae COVID-19 wedi tynnu sylw pellach at anghydraddoldebau hanesyddol a strwythurol, ac mae mudiadau ac ymgyrchoedd arwyddocaol byd-eang fel #WeShallNotBeRemoved a Black Lives Matter wedi cael effaith pellgyrhaeddol. Ni allwn ailafael yn ein harferion a'n ffyrdd o weithio blaenorol, ac mae angen i’r sector celfyddydol wneud newidiadau radical mewn ffordd ystyrlon a hirdymor.

Mae sicrhau hygyrchedd llawn i bobl ag anableddau yn hanfodol bwysig ac mae angen datblygu ac addasu llwyfannau digidol i fod yn gynhwysol ac ar gael i bawb. Mae gan sefydliadau gyfrifoldeb enfawr i sicrhau diogelwch defnyddwyr a darparwyr cynnwys ac mae hyn yn gosod heriau ac angen newydd ar gyfer dysgu a rhannu arfer gorau. Mae diogelu cynulleidfaoedd hefyd yn parhau i fod yn bryder allweddol.

Bydd angen meddwl a gweithredu yn radical ar draws y sector yn y tymor byr a'r tymor canolig, ac mae angen i hyn fod yn sail i unrhyw strategaeth adfer ar gyfer y celfyddydau. Trwy ddefnyddio ein traddodiadau hirsefydlog o adrodd straeon, perfformio, a chreu cymunedol, gallwn hwyluso rhaglen o ddadleuon, sgyrsiau, ac ymgysylltu torfol mewn meddwl yn radical - gan roi perchnogaeth a phŵer cynllunio yn nwylo ein pobl a'n cymunedau. Bydd hyn yn datblygu sector diwylliannol gyfoes llawn amrywiaeth yng Nghymru. Bydd proses o fyfyrio, cwestiynu, gwrando a thrafod yn ein galluogi i newid ac adnewyddu yn barhaus gan arwain at gymdeithas fwy agored a democrataidd. Bydd arweinwyr diwylliannol a meddylwyr radical yn yr un ystafell â chynllunwyr dinesig, arbenigwyr iechyd ac unigolion sy’n gweithredu dros yr amgylchedd - pob un yn dod â’u creadigrwydd, eu harloesedd a'u dychymyg eu hunain er mwyn datrys problemau a chynllunio dyfodol gwell i Gymru.

 

Pa faterion ddylai’r pwyllgor eu blaenoriaethu wrth gynllunio ein rhaglen waith ar gyfer y tymor byr a’r tymor hir?

Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith eithriadol ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a hynny fwy nag eraill yng Nghymru. Mae marwolaeth George Floyd a mudiad byd-eang Black Lives Matter wedi tynnu sylw at yr angen brys o fynd i’r afael â hiliaeth systematig a strwythurol ar draws ein holl sectorau. Mae'r cyfnod penodol hwn o fyfyrio, gwrando a darllen wedi ein harwain fel sefydliad i gydnabod bod angen gwneud mwy i sicrhau bod ein diwylliant llenyddol yn cynrychioli Cymru gyfan. Er mwyn wynebu'r heriau cyfredol fel sector ehangach mae'n rhaid i ni fod yn barod i gofleidio newidiadau mwy radical. Rydym wedi lansio rhaglen flaenllaw newydd sy’n llwyfannu awduron o liw. Fe gynlluniwyd a datblygwyd Cynrychioli Cymru: Datblygu Awduron o Liw trwy ymgynghori a phartneriaid, unigolion a chymunedau sydd â phrofiad byw. Mae’r rhaglen a gyflwynwyd wedi ei chyd-greu gan y garfan o awduron a ddewiswyd gan sicrhau bod y cyfleoedd a gynhigiwyd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer pob un ohonynt, gan ystyried pa gefnogaeth broffesiynol a chreadigol y byddant yn elwa ohonynt.

Mae gan ddiwylliant ran allweddol i'w chwarae wrth i ni adfer ac ailagor cymdeithas, yn ogystal ag wrth fynd i'r afael a’r trawma a’r galar sy'n gysylltiedig â Covid-19. Mae nifer o astudiaethau clinigol eisoes yn bodoli sy'n profi fod gan lenyddiaeth y pŵer i wella iechyd a llesiant unigolion. Nawr, fwy nag erioed, dylid defnyddio llenyddiaeth i drin yr ymchwydd mewn salwch meddwl a chorfforol hirdymor. Mae llenyddiaeth yn offeryn pwerus i fynd i’r afael â rhai o’n heriau cymdeithasol, a gall gyfrannu at wella bywydau pobl yng Nghymru. Gall hefyd helpu i adeiladu gweithluoedd a chymunedau mwy gwydn, a chael ei ddefnyddio ochr yn ochr â mesurau eraill i atal afiechyd.

Cafodd y mesurau pellhau corfforol a’r cyfnodau clo fu’n ofynnol yn ystod pandemig Covid-19 effaith sydyn a dwys ar y ffyrdd y gallai pobl ymgysylltu â'i gilydd. Roedd y newidiadau hyn yn dwysáu lefelau uchel o ynysu cymdeithasol ac unigrwydd i lawer yn y DU. Mae unigrwydd cynyddol yn ei dro yn effeithio ar iechyd meddwl a lles, gan arwain at bwysau ychwanegol ar y sector iechyd ac ar yr economi, gan ei gwneud yn her sylweddol i adferiad Covid.

Nid oedd systemau a gweithdrefnau blaenorol yn mynd i'r afael yn foddhaol ag anghenion pobl Ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl, pobl o gefndiroedd incwm isel a phobl a chymunedau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae angen ailgyfeirio cyllid yn sylweddol er mwyn datblygu a chyflwyno’r celfyddydau mewn modd sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai sydd wedi ac sydd yn cael eu gadael ar ôl neu eu gadael allan. Fodd bynnag, nid parhau ac (yn ddelfrydol) cynyddu’r cyllid tuag at y celfyddydau yn unig sydd ei angen, dylid hefyd gefnogi'r sefydliadau a'r artistiaid hynny sy'n ymrwymo i wneud pethau'n wahanol.

Dylem flaenoriaethu'r argyfwng hinsawdd, a defnyddio pŵer y celfyddydau - a llenyddiaeth yn benodol - i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth ac ysgogi newid. Mae Llenyddiaeth Cymru wedi nodi'r argyfwng hinsawdd fel blaenoriaeth allweddol ar gyfer ein cynllun strategol nesaf (2022-2025), lle rydym yn anelu at ysbrydoli newid trwy ddefnyddio creadigrwydd i addysgu, archwilio a herio. Rydym yn cydnabod effaith ddinistriol yr argyfwng hinsawdd ar ein byd ac ar fywydau pobl, gyda'r tlotaf yn cael eu taro caletaf unwaith yn rhagor. Rydym am weithredu lle y gallwn i atal yr argyfwng rhag gwaethygu ymhellach, a chodi ymwybyddiaeth trwy ein gwaith. Ni allwn nodi cyswllt ein gwaith gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol heb gydnabod y dinistr i’n hamgylchedd a’r argyfwng hinsawdd ym mhopeth a wnawn. Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid a'n cynulleidfaoedd i anelu at Gymru wyrddach, decach a mwy llewyrchus.

Mae artistiaid, sefydliadau celfyddydol, cynulleidfaoedd a gweithwyr proffesiynol y diwydiannau creadigol yn aml yn feddylwyr radical a all gynnig dulliau newydd, arloesol i fynd i'r afael â chwestiynau cymdeithasol mawr, a hynny gyda sylw arbennig ar amrywiaeth a chynhwysiant. Mae angen i'r sector cyfan weithio ar y cyd, ynghyd â'n cyllidwyr a’n noddwyr, i ddatblygu gweledigaeth a chynllun gweithredu ar sut i wneud y mwyaf o’r potensial hwn.

 

Sut mae Brexit a’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE yn effeithio arnoch chi a’ch sefydliad? Pa gymorth ydych chi wedi’i gael i ymateb i’r newidiadau? Pa gymorth pellach, os o gwbl, sydd ei angen gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU?

Fel sefydliad strategol a datblygiadol, yn hytrach nac un â phwyslais ar berfformiad neu drefnu teithiau i’n hallbwn, nid yw’r berthynas newydd rhwng y DU a’r UE wedi effeithio’n uniongyrchol ar allu Llenyddiaeth Cymru i gyflawni ein rhaglenni a’n partneriaethau. Fodd bynnag, rydym yn ystyriol ac yn ymwybodol iawn o'i effeithiau ar y cymunedau a'r awduron yr ydym yn gweithio gyda nhw. Mae'r effeithiau hyn yn debygol o ddod yn fwy amlwg wrth i'r wlad wella o'r pandemig.

Rydym yn gweithio'n galed i gynnal perthnasoedd cadarnhaol gyda'n partneriaid rhyngwladol ac yn ymdrechu i barhau â'r ymdeimlad o Gymru fyd-eang, a hynny trwy ymgysylltu yn ddigidol yn hytrach na theithio rhyngwladol, yn unol â'n Cynllun Amgylcheddol. Rydym wedi datblygu partneriaeth gref â sefydliadau llenyddol yn yr Alban, Iwerddon a’r Almaen – yn enwedig yn ystod Blwyddyn Ieithoedd Cynhenid ​​UNESCO – ac wedi adeiladu cyfleoedd i gydweithio ac arddangos diwylliant llenyddol amrywiol ac amlieithog Cymru gyda chynulleidfaoedd newydd.

Mae’n annhebygol iawn y bydd y materion hyn yn diflannu’n fuan, ac felly fel sector mae angen i ni ddod o hyd i ffordd i droi’r cyfyngiadau hyn yn gyfleoedd - cyfleoedd i fynd â Chymru i’r byd, Cymru sydd â chysylltiad â Chymru sy’n ffynnu. Byddai unrhyw gefnogaeth a hyrwyddiad ychwanegol gan Lywodraethau Cymru a'r DU, yn ogystal â'u sefydliadau celfyddydau a diwylliant dirprwyedig, yn cael eu croesawu'n fawr er mwyn i ni barhau i lwyfannu a hyrwyddo ein treftadaeth unigryw a'n diwylliant cyfoes amrywiol.